Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
28 Mawrth 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4258
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
Dechreuodd yr eitem am 14.19
I Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y
gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni?
EAQ(5)0153(HWS)W
Cwestiwn Brys 2
Dechreuodd yr eitem am 14.36
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)
Dechreuodd yr eitem am 14.35
Cododd Angela Burns Bwynt o Drefn yn awgrymu fod Joyce Watson wedi camddyfynnu’n fwriadol yr hyn a ddywedodd yn ei chyfraniad yn ystod y Cwestiwn Brys cyntaf a’i bod yn awyddus i gofnodi hynny. Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am ei hesboniad, gan ddatgan y bydd y Cofnod yn rhoi ei ddyfarniad ar y mater pan gaiff ei gyhoeddi. Gofynnodd y Llywydd i bob Aelod wrando’n astud ar yr hyn sydd gan Aelodau eraill i’w ddweud, a dehongli’r hyn a ddywedir yn ofalus.
Dechreuodd yr eitem am 14.44
Cyhoeddodd y Llywydd y caiff Paul Davies ofyn i’r Cynulliad gytuno i gyflwyno Bil Aelod ar Fil Awtistiaeth (Cymru).
Dechreuodd yr eitem am 14.45
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM6272 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau
Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael
ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6271 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM6269 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y
darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NNDM6279 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu:
a) i NDM6267, a gyflwynwyd gan David Rees, gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mawrth 2017; a
b) i Ddadl Fer NDM6266, a gyflwynwyd gan Dawn Bowden, gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM6267 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Am 15.47, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 10 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull ar gyfer dadl Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn nhrefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 fel y cytunwyd gan y Cynulliad ar 21 Mawrth 2017.
Tynnwyd gwelliant 35 yn ôl.
Ni chynigiwyd gwelliant 37.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 32:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 32.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 36:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 36
Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 38:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 38.
Ni chynigiwyd gwelliant 39.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 33:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 33.
Ni chynigiwyd gwelliant 40.
Tynnwyd gwelliant 30 yn ôl.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Ni chynigiwyd gwelliant 41.
Ni chynigiwyd gwelliant 42.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 25 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 31:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
8 |
10 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 31.
Tynnwyd gwelliant 34 yn ôl.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 29 Mawrth 2017